Papur gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i'r Pwyllgor Cyllid ar gyfer eu hadolygiad o Gyllid Addysg Uwch
Cyflwyniad
1. Fel yr amlinellwyd yn Natganiad Polisi Llywodraeth Cymru ar addysg uwch, rwyf i’n credu mai stori o lwyddiant sydd i’w adrodd am Addysg Uwch yng Nghymru. Mae’r sector yn cyfrannu dros £3 biliwn y flwyddyn mewn gwariant gros i’n heconomi, a gyda thros 24,000 o weithwyr, mae Prifysgolion yn gyflogwyr sylweddol. Mae iddynt swyddogaeth bwysig yn cefnogi datblygiad sgiliau lefel uwch, yn ogystal â chreu cyfleoedd ar gyfer twf pellach drwy arloesi ac ymgysylltu â busnesau.
2. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau’n ymrwymedig i agor addysg uwch i bawb sydd â’r potensial i elwa yn ei sgil. Rydym ni wedi gweld llwyddiant yma hefyd - mae’r nifer o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sydd wedi’u cofrestru mewn addysg uwch yn y DU wedi codi o 93,405 yn 2000/01 i 102,110 yn 2011/12.
3. Yn gyffredinol mae ein prifysgolion yn sgorio’n uchel mewn arolygon o foddhad myfyrwyr. Maen nhw wedi bod yn fwy llwyddiannus yn sicrhau cyfranogiad myfyrwyr o gefndiroedd annhraddodiadol nag y mae ardaloedd eraill o Brydain. Mae iddynt gryfderau sylweddol mewn ymchwil ac addysgu ac rydym ni’n falch fod Cymru’n fewnforiwr net o ran myfyrwyr a bod ei system addysg uwch yn uchel ei pharch drwy’r byd.
4. Mae newidiadau i drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru a gyflwynwyd yn 2012/13 wedi gosod y sector AU mewn sefyllfa ariannol gryfach o lawer.
5. Bydd rhan un y papur yn amlinellu’r fframwaith llywodraethu a rheoli ar gyfer modelu cyllid myfyrwyr ac addysg uwch i sicrhau bod y polisi’n gynaliadwy, ei effaith ar gyllid, ar reoleiddio a deddfwriaeth ac wrth gwrs ar fyfyrwyr a’u gallu i elwa ar addysg uwch. Byddaf hefyd yn amlinellu fy nghynlluniau at y dyfodol ar gyfer adolygiad o addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru.
6. Mae rhan dau yr adroddiad yn gyfraniad gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar berfformiad a chyllido ymchwil yng Nghymru.
Incwm a chymorth ffioedd dysgu, yr effaith ariannol
7. Yn 2010, cyhoeddodd y Gweinidog blaenorol ymateb Llywodraeth Cymru i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu ffioedd dysgu’n sylweddol yn Lloegr. Cynyddwyd y ffioedd dysgu sylfaenol yng Nghymru i £6,000 (diwygiwyd yn ddiweddarach i £4,000) y flwyddyn o flwyddyn academaidd 2012/2013 ac mae sefydliadau addysg uwch (SAUau) yn gallu codi ffioedd dysgu o hyd at £9,000 y flwyddyn, cyhyd ag y gallant ddangos ymrwymiad i ehangu mynediad ac amcanion strategol eraill drwy gynlluniau ffioedd a gymeradwyir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae myfyrwyr Cymru’n gymwys i gael Grant Ffioedd Dysgu i dalu unrhyw gynnydd gwirioneddol mewn ffioedd.
Llywodraethu a rheoli modelu cyllid myfyrwyr a gwariant addysg uwch
8. Ceir model ariannol soffistigedig yn sail i’r polisi Cyllid Myfyrwyr sy’n rhoi ystyriaeth i’r ddarpariaeth ariannol gyfredol sydd wedi’i neilltuo ar gyfer addysg uwch yng Nghymru yn ogystal â ffynonellau eraill o incwm sefydliadol megis ffioedd dysgu. Caiff rhagolygon eu hadolygu’n rheolaidd wrth i ddata newydd neu gadarnach ymddangos. Caiff rhagolygon wedi’u diweddaru eu cynhyrchu gan yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi ar adegau rheolaidd yn ystod y flwyddyn ariannol er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am ymddygiad myfyrwyr, tueddiadau demograffig, cyfraddau derbyn, ffactorau cymdeithasol-economaidd a data perthnasol arall yn cael eu hystyried.
9. Caiff penderfyniadau i ddiwygio’r tybiaethau a geir yn y model eu seilio ar gyngor gan Grŵp Defnyddwyr Rhagweld Cymorth Myfyrwyr o swyddogion sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Is-adran Addysg Uwch, y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, yr Is-adran Gwasanaethau Corfforaethol a CCAUC.
10. Yn ogystal â thrafodaethau yn y Grŵp Defnyddwyr Rhagweld Cymorth Myfyrwyr, caiff y tybiaethau modelu lefel uchel eu trafod yn y Bwrdd Prosiect Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr a Bwrdd y Rhaglen Cyflawni Addysg Uwch. Mae’r byrddau hyn yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflenwi allweddol gan gynnwys y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, CCAUC, Addysg Uwch Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
11. Caiff y tybiaethau, data a ffactorau macro economaidd diwygiedig eu gosod yn y model cyllid myfyrwyr, sy’n cynhyrchu rhagolygon y dyfodol.
Modelu ariannol gwreiddiol y grant ffioedd dysgu (2010/11)
12. I gefnogi’r newidiadau polisi AU a gyflwynwyd yn 2010, cynhaliwyd ymarfer modelu ariannol manwl ar effaith y cynnydd mewn ffioedd dysgu ar brifysgolion a’r cyllid ychwanegol a fyddai’n cael ei ddarparu i fyfyrwyr israddedig llawn amser yn hanu o Gymru i gwmpasu unrhyw gynnydd mewn ffioedd.
13. Er mwyn cwblhau’r modelu cychwynnol, gwnaed nifer o dybiaethau ynglŷn â’r nifer disgwyliedig o fyfyrwyr, y benthyciadau a fyddai’n cael eu cymryd a nifer o ffactorau eraill. Seiliwyd y tybiaethau hyn ar ddata tueddiadau blynyddoedd blaenorol yn ogystal ag amcangyfrifon at y dyfodol o ran ymddygiad myfyrwyr a sefydliadau.
14. Cynhaliwyd y modelu gwreiddiol ar gyfer y grant ffioedd dysgu yn ystod hydref 2010 a chafodd nifer o senarios eu modelu. Mae’r modelau wedi’u rhyddhau yn dilyn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ym mis Chwefror (cyf Ed33) a mis Mawrth (cyf Ed53) 2011. Roedd y senarios modelu’n cynnwys uchafswm ffioedd dysgu o £7,000 a £9,000. Gellir gweld yr wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon: http://wales.gov.uk/publications/accessinfo/disclogs/dr2011/addysg/?lang=en
15. Roedd y polisi a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2010 yn seiliedig ar y tybiaethau canlynol ar gyfer blwyddyn academaidd (BA) 2012/13:
· uchafswm ffi dysgu amrywiadwy o £7,000 y flwyddyn mewn SAUau yng Nghymru a Lloegr;
· ffi o £3,500 y flwyddyn i SAUau yng Ngogledd Iwerddon, a ffi dysgu o £2,190 y flwyddyn mewn SAUau yn yr Alban (ffi 2011/12 gyda chynnydd chwyddiant o 2.7%);
· 100% o fyfyrwyr yn ymgymryd â grantiau ffioedd dysgu;
· rhaniad yn y flwyddyn ariannol: 51.5% BA flaenorol a 48.5% BA gyfredol;
· seiliwyd rhagolygon blynyddoedd y dyfodol ar ffioedd dysgu, elfennau benthyciad a grant, yn cynyddu gyda chwyddiant bob blwyddyn. Rhagwelwyd y byddai chwyddiant yn 2.7% ar gyfer 2012/13 ymlaen:
· ni fyddai myfyrwyr oedd yn parhau yn gymwys ar gyfer y cymorth newydd a byddent yn ddarostyngedig i’r pecyn cyfredol.
Mae Tabl 1 yn dangos niferoedd y myfyrwyr a fyddai’n gymwys am gymorth
Tabl 1 - niferoedd myfyrwyr yn ôl Blwyddyn Academaidd
Rhagamcanion niferoedd myfyrwyr (miloedd ) |
2012/13 |
2013/14 |
2014/15 |
2015/16 |
2016/17 |
Cymry mewn SAUau yng Nghymru: benthyciadau ffioedd llawn |
11.991 |
21.982 |
30.433 |
32.837 |
34.182 |
Cymry mewn SAUau eraill yn y DU: benthyciadau ffioedd llawn |
5.043 |
9.243 |
12.795 |
13.806 |
14.371 |
Myfyrwyr UE |
0.803 |
1.485 |
2.061 |
2.225 |
2.316 |
Myfyrwyr y DU (nid Cymry) yng Nghymru |
8.679 |
16.055 |
22.288 |
24.063 |
25.049 |
Tabl.2: Rhagolygon ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13 hyd at 2016-17 (seiliedig ar y tybiaethau uchod)
Grant/Benthyciad (Miliynau) |
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
2015-16 |
2016-17 |
Benthyciadau Ffioedd Dysgu |
145.2 |
161.6 |
169.7 |
174.7 |
179.2 |
Grant Ffi Newydd |
31.5 |
92.7 |
147.3 |
182.9 |
198.9 |
Cost Cyllideb Cyfrifyddu Adnoddau |
47.0 |
53.4 |
58.0 |
61.4 |
62.9 |
16. Diwygiwyd y tybiaethau yn y modelu pan gyflwynodd sefydliadau yng Nghymru eu cynlluniau ffioedd (i CCAUC) gydag amcangyfrifon o lefelau ffioedd. Er nad oedd yn bosibl ar y cam hwnnw i gadarnhau union gyfartaledd lefel ffioedd yng Nghymru, penderfynwyd y dylai’r modelu fod yn ddarbodus a thybio cyfartaledd ffioedd o £9,000 y flwyddyn. Gwelir y modelu diwygiedig yn Nhabl 3:
Tabl 3: Rhagolygon ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13 – 2016-17
Grant/Benthyciad (Miliynau) |
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
2015-16 |
2016-17 |
Benthyciadau Ffioedd Dysgu |
141.6 |
157.8 |
166.0 |
171.3 |
175.9 |
Grant Ffi Newydd |
51.8 |
150.4 |
236.1 |
292.5 |
314.3 |
Cost Cyllideb Cyfrifyddu Adnoddau |
44.5 |
47.5 |
48.2 |
49.5 |
50.3 |
Modelu ariannol y grant ffioedd dysgu (2012/13)
17. Cynhyrchwyd y rhagolygon terfynol cyn blwyddyn academaidd 2012/13 ym mis Gorffennaf 2012. Cytunwyd ar y tybiaethau canlynol:
· uchafswm ffi dysgu amrywiadwy o £9,000 y flwyddyn;
· 100% o fyfyrwyr yn ymgymryd â grant ffioedd dysgu;
· rhaniad yn y flwyddyn ariannol: 51.5% BA flaenorol a 48.5% BA gyfredol;
· seiliwyd rhagolygon blynyddoedd y dyfodol ar ffioedd dysgu, elfennau benthyciad a grant, yn cynyddu gyda chwyddiant bob blwyddyn. Rhagwelwyd y byddai chwyddiant yn 3.22% yn 2013/14, 3.3% yn 2014/15 a 3.3% yn 2015/16.
Mae Tabl 4 yn dangos niferoedd y myfyrwyr a fyddai’n gymwys am gymorth
Tabl 4 niferoedd myfyrwyr yn ôl Blwyddyn Academaidd
Rhagamcanion niferoedd myfyrwyr (miloedd ) |
2012/13 |
2013/14 |
2014/15 |
2015/16 |
2016/17 |
Cymry mewn SAUau yng Nghymru: benthyciadau ffioedd llawn |
11.908 |
21.183 |
29.128 |
31.366 |
31.895 |
Cymry mewn SAUau eraill yn y DU: benthyciadau ffioedd llawn |
6.149 |
11.148 |
15.397 |
16.580 |
16.860 |
Myfyrwyr UE |
1.079 |
1.962 |
2.730 |
2.948 |
3.000 |
Myfyrwyr y DU (nid Cymry) yng Nghymru |
10.614 |
18.753 |
25.601 |
27.501 |
27.953 |
Tabl 5: Rhagolygon ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13 i 2016-17 (o fis Gorffennaf 2012)
Grant/Benthyciad (Miliynau) |
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
2015-16 |
2016-17 |
Benthyciadau Ffioedd Dysgu |
138.9 |
155.3 |
164.3 |
170.8 |
176.1 |
Grant Ffi Newydd (a) |
51.8 |
150.8 |
238.0 |
296.4 |
319.5 |
Cost Cyllideb Cyfrifyddu Adnoddau |
43.6 |
46.7 |
47.7 |
49.4 |
50.3 |
(a) £5,535 o 12/13 – y gwahaniaeth rhwng ffioedd cyfredol a £9k
Modelu ariannolgrant ffioedd dysgu cyfredol (2013/14)
18. Gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, CCAUC, UCAS a HESA ac ystyried datganiad y Gweinidog ar 13 Medi 2012, cytunwyd ar y newidiadau canlynol i’r tybiaethau yn y model cyllid myfyrwyr:
Ar gyfer 2012/13;
· ffi dysgu o £8,680 y flwyddyn i fyfyrwyr o Gymru mewn SAUau yng Nghymru (cyfartaledd CCAUC);
· ffi dysgu o £8,385 y flwyddyn i fyfyrwyr o Gymru mewn SAUau yn Lloegr (cyfartaledd yr Office for Fair Access (OFFA));
· ffi dysgu o £9,000 y flwyddyn i fyfyrwyr o Gymru mewn SAUau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon;
· ffi dysgu o £8,902 y flwyddyn i fyfyrwyr eraill o’r DU mewn SAUau yng Nghymru (cyfartaledd CCAUC);
· 98% o fyfyrwyr yn ymgymryd â grant ffioedd dysgu;
· rhaniad yn y flwyddyn ariannol: 51.5% BA flaenorol a 48.5% BA gyfredol.
Seiliwyd rhagolygon blynyddoedd y dyfodol ar;
Mae Tabl 6 yn dangos niferoedd y myfyrwyr a fyddai’n gymwys am gymorth.
Tabl 6
Rhagamcanion niferoedd myfyrwyr (miloedd ) |
2012/13 |
2013/14 |
2014/15 |
2015/16 |
2016/17 |
Cymry mewn SAUau yng Nghymru: benthyciadau ffioedd llawn |
11.821 |
21.198 |
29.196 |
31.447 |
31.978 |
Cymry mewn SAUau eraill yn y DU: benthyciadau ffioedd llawn |
6.056 |
11.058 |
15.294 |
16.473 |
16.751 |
Myfyrwyr UE |
1.006 |
1.835 |
2.554 |
2.760 |
2.808 |
Myfyrwyr y DU (nid Cymry) yng Nghymru |
11.006 |
19.606 |
26.297 |
28.117 |
28.537 |
Dylid nodi nad yw’r union wybodaeth ar niferoedd myfyrwyr ar gyfer 2012-13 ar gael eto
Tabl 7: Rhagolygon ar gyfer 2012-13 i 2016-17
Grant/Benthyciad (Miliynau) |
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
2015-16 |
2016-17 |
Benthyciadau Ffioedd Dysgu |
139.8 |
155.6 |
164.4 |
171.4 |
176.7 |
Grant Ffi Newydd (a) (b) |
47.2 |
127.2 |
185.7 |
219.3 |
229.7 |
Cost Cyllideb Cyfrifyddu Adnoddau |
43.9 |
46.8 |
47.6 |
49.5 |
50.5 |
(a) £5,535 o 12/13 – y gwahaniaeth rhwng ffioedd cyfredol a £9k
(b) Y gwir ddata alldro gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar gyfer 2012-13 oedd £47.8m
Gwahaniaethau yn y modelu ers 2011 – 2013
Siart 7.1
19. Ers y rhagolygon cychwynnol disgynnodd cost ddisgwyliedig y grant ffioedd dysgu (yn ystod oes y Llywodraeth hon) o £1.2 biliwn dros 5 mlynedd i £809 miliwn.
20. Un o’r prif resymau am y gostyngiad yn rhagolwg cost y grant ffioedd dysgu yw bod cyfartaledd y ffi dysgu i fyfyrwyr o Gymru wedi lleihau o £9,000 y flwyddyn i £8,680 y flwyddyn yn 2012-13 ac o £9,000 y flwyddyn i £8,291 y flwyddyn i flynyddoedd y dyfodol.
Siart 7.2
21. Cafwyd gostyngiad bach yng nghost ddisgwyliedig y benthyciad ffioedd dysgu, gyda’r costau’n disgyn o £830 dros bum mlynedd i £808 miliwn dros yr un cyfnod. Mae hyn yn adlewyrchu newid yn y gyfradd ddisgwyliedig o fyfyrwyr yn ymgymryd â’r benthyciad o 100% i 98% (o BA 2013/14).
Incwm Ychwanegol i SAUau
22. Yn ogystal â’r grant ffioedd dysgu a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, mae SAUau hefyd yn derbyn incwm o ffynonellau eraill, er enghraifft incwm ffioedd dysgu gan fyfyrwyr nad ydynt yn hanu o Gymru sy’n astudio yng Nghymru a chyllid ar gyfer ymchwil.
23. Mae’r tybiaethau canlynol wedi’u cynnwys yn y modelu yn nhablau 8 a 9 sy’n tybio bod:
· y lefelau cyfredol o lif trawsffiniol a recriwtio myfyrwyr yn parhau ar yr un lefelau.
24. Nid yw data ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17 wedi’i gynnwys gan nad yw gwybodaeth am gyllidebau Llywodraeth Cymru ar gael ar hyn o bryd. Bydd cyllideb CCAUC yn dibynnu ar setliad terfynol Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru a’r ddarpariaeth cyllideb a gytunir ar gyfer yr Adran Addysg a Sgiliau. Fodd bynnag byddai’n ochelgar i gynllunio gan dybio y bydd y toriadau cyllideb yn parhau yn 2016-17.
25. Byddai angen i dybiaethau cynllunio o ran gostyngiadau posibl gael eu cymhwyso i’r gyllideb Addysg a Sgiliau gyfan, ac yna byddai angen ystyried meysydd lle caiff cyllid ei ddiogelu megis ysgolion etc.
Tabl 8: incwm ychwanegol a ragwelir i SAUau mewn arian parod (blwyddyn ariannol)
Siart 9
Tabl 10: incwm ychwanegol a ragwelir i SAUau mewn termau real (blwyddyn ariannol)
Siart 11
26. Mewn termau arian parod, rhagwelir y bydd incwm i SAUau Cymru’n cynyddu ym mhob blwyddyn yn ystod oes y Llywodraeth hon.
27. Rhagwelir y bydd incwm o grantiau’r corff cyllido’n gostwng dros y blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag disgwylir y bydd y cyfraniad gan fyfyrwyr nad ydynt yn hanu o Gymru’n cynyddu. Mae’r holl ffynonellau incwm eraill yn debygol o aros ar lefelau cymharol debyg.
Llif traws-ffiniol
28. Mae Cymru yn fewnforiwr net o ran myfyrwyr o rannau eraill o’r DU, ac o ganlyniad mae sefydliadau yng Nghymru’n cael llawer mwy o incwm ffioedd gan y myfyrwyr hyn nag y mae CCAUC yn ei dalu mewn grant ffioedd i sefydliadau y tu hwnt i Gymru.
29. Mae siart 12 yn dangos gwerth y ffioedd y rhagwelir y bydd CCAUC yn eu talu i SAUau y tu hwnt i Gymru a gwerth y ffioedd y rhagwelir y bydd SAUau Cymru’n eu derbyn o’r tu hwnt i Gymru.
Siart 12
Tabl 13 Niferoedd myfyrwyr yn ôl blwyddyn academaidd
£miliwn |
2012/13 |
2013/14 |
2014/15 |
2015/16 |
2016/17 |
Cymru i Loegr |
15.1 |
41.1 |
60.3 |
71.3 |
74.7 |
Gweddill y DU i Gymru |
29.0 |
79.7 |
119.5 |
146.4 |
157.0 |
Dyledion Myfyrwyr
30. Mae’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu (ac yn ei rhagflaenydd “Cymru’n Un”) i fyfyrwyr i liniaru cost unrhyw gynnydd mewn ffioedd dysgu a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn seiliedig ar ein cred y dylai mynediad at addysg uwch yng Nghymru fod ar sail gallu’r unigolyn ac nid yr hyn y gall fforddio ei dalu.
31. Mae Siart 14 yn rhagweld lefel y ddyled i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru o’u cymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr dros y deng mlynedd nesaf (yn seiliedig ar systemau cyllid myfyrwyr cyfredol yn y ddwy wlad, ac eithrio costau llog). Mae’n dangos yr effaith y mae’r polisïau grant ffioedd dysgu a dileu benthyciadau cynnal a chadw yn rhannol wedi’u cael ar fyfyrwyr Cymru.
Siart 14
Nodiadau:
i. At ddibenion dangosol yn unig. Ni ddylid defnyddio union ffigurau ar gyfer rhagamcanion.
ii. Mae data hanesyddol hyd at y presennol (gan gynnwys cyfansymiau 2011/12) yn seiliedig ar ddata’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar y nifer o fenthycwyr a’r cyfanswm sy’n ddyledus.
iii. Y rhagamcanion yn seiliedig ar y cyfartaledd 4 blynedd diweddaraf o newidiadau yn nifer y benthycwyr a’r swm sy’n ddyledus.
Casgliad
32. Bydd y polisi ffioedd dysgu a gyflwynwyd yn 2012/13 yn parhau’n weithredol yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Mae’r polisi wedi’i gostio’n llawn ac mae’n parhau’n gynaliadwy. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi casglu mai cyfartaledd y cynnydd mewn cyllid i SAUau yng Nghymru yw 13.8 y cant yn 2013/14. Yn seiliedig ar dybiaethau a geir yn y model cyllid myfyrwyr, bydd y sector AU yn parhau i dderbyn cynnydd yng nghyfanswm ei hincwm tan o leiaf 2015-16, os yw sefydliadau’n gallu recriwtio’r nifer o fyfyrwyr a ddyrennir iddynt. Fodd bynnag bydd y ffigurau hyn yn ddibynnol ar ganlyniad yr adolygiad gwariant nesaf a’i effaith ar gyllid Llywodraeth Cymru.
33. Hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd gyfredol a gyda phwysau sylweddol ar gyllid y llywodraeth, mae incwm i’r sector AU yng Nghymru’n parhau’n gryf a rhagwelir y bydd yn cynyddu dros amser heb gynyddu’r ddyled i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn sylweddol.
34. Caiff y model ariannol sy’n cefnogi’r polisi hwn ei adolygu’n fisol gan swyddogion a’i ddiweddaru pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.
Goblygiadau eraill yn sgil diwygio cyllid AU
35. Mae goblygiadau uniongyrchol i’r trefniadau newydd ar gyfer cyllido addysg uwch a chymorth statudol i fyfyrwyr o ran y ffordd y mae CCAUC yn cyflawni ei swyddogaethau (mae’r goblygiadau cyllido eisoes wedi’u trafod uchod).
36. Mae gan CCAUC ddyletswydd statudol, dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, i sicrhau bod darpariaeth yn cael ei threfnu ar gyfer asesu ansawdd yr addysg a ddarperir mewn sefydliadau y mae’r Cyngor yn darparu cymorth ariannol iddynt, neu y mae’n ystyried gwneud hynny. Ar hyn o bryd mae CCAUC yn cyflawni’r ddyletswydd hon drwy’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) ac mae’n gorfodi gofynion penodol yn ymwneud ag addysg uwch drwy amodau’n gysylltiedig â’r cyllid y mae’n ei ddyrannu i sefydliadau. Caiff gofynion CCAUC mewn perthynas â chyflwr ariannol a threfniadau llywodraethu sefydliadau hefyd eu gweithredu drwy amodau a osodir ar gyllid sydd ar gael i sefydliadau. Caiff yr amodau hyn eu cynnwys yn y memoranda ariannol rhwng y Cyngor a’r sefydliadau unigol.
37. Mae’r trefniadau cyfredol ar gyfer ffioedd dysgu addysg uwch yn seiliedig ar Ddeddf Addysg Uwch 2004 sy’n gwneud darpariaeth i sefydliadau yng Nghymru sy’n codi ffioedd sy’n uwch na’r swm sylfaenol (£4,000 ar hyn o bryd) er mwyn sicrhau cydraddoldeb mynediad at addysg uwch.[1] Mae’r trefniadau hyn wedi’u rhoi ar waith dan y gyfundrefn ffioedd newydd ar ffurf cynlluniau ffioedd ac ym mis Mawrth 2011, dynodwyd CCAUC yn gorff â chyfrifoldeb statudol yng Nghymru am gymeradwyo a gorfodi cynlluniau ffioedd. Yn unol â’r trefniadau newydd ar gyfer rheoli ffioedd dysgu o 1 Medi 2012, mae’n ofynnol i’r holl sefydliadau sy’n derbyn cyllid gan CCAUC ac sy’n dymuno codi ffioedd dros £4,000 y flwyddyn ar gyrsiau israddedig llawn amser fod â chynllun ffioedd cymeradwy. Rhaid i gynllun ffioedd y sefydliad egluro’r cyfryw fesurau, megis gwaith ymestyn a chymorth ariannol, a gaiff eu cyflwyno gan y sefydliad i hyrwyddo addysg uwch a chydraddoldeb mynediad at addysg uwch. Ategir gallu CCAUC i orfodi rheolaeth ar ffioedd ac ymrwymiadau i gynlluniau ffioedd hefyd gan yr amodau sy’n gysylltiedig â chyllid y mae’r Cyngor yn ei ddyrannu i sefydliadau.
38. Dan y trefniadau cyllido newydd a gyflwynwyd o flwyddyn academaidd 2012/13,bydd CCAUC yn dechrau talu cyfran sylweddol o gyllid grant rheolaidd addysg uwch (a ddyrannwyd yn flaenorol i sefydliadau gan CCAUC dan adran 65 Deddf Addysg Uwch 1992), drwy grantiau ffioedd dysgu myfyrwyr.Mae grantiau o’r fath y mae gan fyfyrwyr cymwys hawl iddynt yn sefyll y tu allan i drefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer rhoi cyllid i CCAUC i gyllido addysg uwch. Dros amser bydd gan y symudiad hwn o ran cyllido oblygiadau i’r modd y caiff swyddogaethau CCAUC eu cyflawni.
39. Bydd dylanwad CCAUC dros y sector addysg uwch drwy amodau’n gysylltiedig â’r grant rheolaidd a ddyrennir i sefydliadau’n lleihau dros amser wrth i gyfran sylweddol fwy o gyllid y sefydliadau ddeillio o ffioedd dysgu. Mae gan hyn oblygiadau o ran y ffordd y mae CCAUC:
· yn gosod rheolaeth ar ffioedd ac yn gorfodi ymrwymiadau i gynlluniau ffioedd;
· yn darparu ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch;
· yn darparu sicrwydd am gyflwr ariannol a threfniadau llywodraethu sefydliadau.
40. Mae tirwedd addysg uwch yn mynd drwy newid sylweddol o ran y math o ddarpariaeth a natur y darparwyr, er enghraifft cynnydd mewn e-ddysgu a dysgu o bell a darparwyr mwy gwahaniaethol gyda rhagor o gyrsiau addysg uwch yn cael eu cynnig mewn sefydliadau AB a gan ddarparwyr eraill. Yn ogystal, wrth i incwm ffioedd ddisodli’r grant rheolaidd a ddyrennir gan CCAUC i sefydliadau AU Cymru, bydd yn dod yn gynyddol anoddach i ddibynnu ar swyddogaethau presennol CCAUC er mwyn: gorfodi rheolaeth ffioedd, asesu ansawdd darpariaeth addysg uwch a darparu sicrwydd ynglŷn â’r defnydd o arian cyhoeddus. Mae angen i’r drefn reoleiddio a weinyddir gan CCAUC weithredu ar draws yr ystod lawn o gyrsiau y mae Gweinidogion Cymru’n eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr statudol. O ganlyniad, mae angen diwygio swyddogaethau CCAUC i adlewyrchu’r newidiadau yn nhirwedd addysg uwch a’r cymorth i ffioedd dysgu a threfniadau cyllido.
41. Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried y dylai fod yn ofynnol i’r holl sefydliadau a darparwyr eraill sy’n cynnig cyrsiau addysg uwch sydd wedi’u dynodi at ddiben cymorth i fyfyrwyr gydymffurfio â’r drefn reoleiddio er mwyn gwarchod buddiannau myfyrwyr, trethdalwyr a chymdeithas Cymru (er y bydd mesur tynnach o reoli mewn perthynas â’r cyrsiau hynny sy’n cael eu dynodi’n awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr yn gymesur â natur y cymorth ar gael). Mae angen fframwaith rheoleiddio newydd ar addysg uwch, i ddarparu sicrwydd am gyflwr ariannol a threfniadau llywodraethu darparwyr addysg uwch ac ansawdd eu darpariaeth, gorfodi rheolaeth ffioedd a diogelu cydraddoldeb mynediad at addysg uwch yng Nghymru. Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno bil yn ystod tymor y Cynulliad hwn i geisio darpariaeth i CCAUC gael trosolwg rheoleiddiol o’r holl gyrsiau addysg uwch a ddynodwyd yn awtomatig ar gyfer cymorth statudol i fyfyrwyr a gyflwynir yng Nghymru. Ceir disgrifiad o’r darpariaethau penodol a geisir yn yr adrannau sy’n dilyn.
Heriau a Chyfleoedd
42. Mae’r sector AU wedi profi newid mawr. Mae mathau newydd o ddarparwyr wedi ymuno â’r farchnad yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae nifer sylweddol o gyrsiau AU bellach yn cael eu haddysgu mewn colegau addysg bellach. Daeth datganoli â phwerau newydd i Gymru sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i weithio’n agosach gyda phrifysgolion a darparwyr AU eraill. Gyda Llywodraeth y DU yn rhoi argymhellion adroddiad Browne ar waith, cafwyd newid sylfaenol yn y modd y caiff addysg uwch ei chyllido. Mae trefniadau cyllido newydd ar gyfer addysg uwch wedi arwain at newidiadau yn y ffordd rydym ni’n rhoi cefnogaeth i ddysgwyr mewn addysg uwch.
43. Mae newidiadau strwythurol sydd wedi’u cyflwyno gan un Llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru yn golygu fod sector addysg uwch Cymru yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy. Ym mis Ebrill eleni, unodd Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd i greu Prifysgol De Cymru sy’n gwasanaethu rhanbarth cyfan de ddwyrain Cymru. Daeth yr uno rhwng Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe’n weithredol ym mis Awst 2013.
44. Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr AU a gyda CCAUC i gyflawni ein huchelgais cyffredin i gael system addysg uwch o safon fyd-eang yng Nghymru sy’n gwasanaethu buddiannau dysgwyr a’r genedl yn yr unfed ganrif ar hugain. Rydym ni’n credu y gall y cydweithio agos hwn rhwng y Llywodraeth a’r sector ei hun weithio er budd pawb.
45. Er mwyn sicrhau bod gan Gymru’r sgiliau sydd eu hangen arni i wynebu heriau’r dyfodol, rhaid i brifysgolion a myfyrwyr gael mynediad at yr adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod strategaeth glir o ran ffioedd dysgu a chymorth. Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gyflwyno nifer o newidiadau bob yn dipyn, a gallai rhai o’r rhain gael effaith anfwriadol ar brifysgolion yng Nghymru.
46. Bydd angen monitro ac adolygu modelau cyllido prifysgolion a chyllid myfyrwyr yn ofalus yng ngoleuni unrhyw newidiadau pellach mewn polisi neu niferoedd a llif myfyrwyr er mwyn lleihau’r effeithiau negyddol posibl a sicrhau nad yw prifysgolion yng Nghymru yn cael eu dadsefydlogi o ganlyniad i hynny. Gyda risg daw cyfleoedd a rhaid i brifysgolion geisio gwneud y gorau o unrhyw gyfleoedd yn y dirwedd symudol sydd ohoni.
47. Mae’r cyd-destun y mae darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn gweithio ynddo yn newid yn gyflym. Mae’r newidiadau sylfaenol i’r ffordd y caiff addysg uwch yn y DU ei chyllido, ynghyd ag arloesi technolegol a disgwyliadau cynyddol gan fyfyrwyr, yn gosod her i fodelau cyflenwi traddodiadol. Mae’r gwahaniaeth rhwng gwahanol fathau o gyflenwi yn gynyddol niwlog o safbwynt y dysgwyr, gyda llawer o fyfyrwyr hefyd yn gweithio’n llawn amser neu ran amser, gydag ymrwymiadau gofalu llawn neu ran amser. Gall y sector AU yng Nghymru ymateb drwy ddatblygu modelau darparu mwy hyblyg, yn llawn a rhan amser, er mwyn adeiladu dyfodol mwy llwyddiannus a chynaliadwy.
Myfyrwyr rhyngwladol
48. Bydd prifysgolion a Llywodraeth Cymru’n gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol fydd yn helpu Cymru i ddod yn bartner o ddewis i fusnes a buddsoddi rhyngwladol ac yn gyrchfan o ddewis i fyfyrwyr a staff rhyngwladol. Mae angen i Gymru gryfhau a chynyddu gwerth y cysylltiadau rhyngwladol sydd eisoes wedi’u creu gan brifysgolion, a defnyddio’r cysylltiadau hyn i sbarduno mewnfuddsoddi. Rhaid i Gymru anfon neges gyson dramor ein bod ni’n agored am fusnes a bod myfyrwyr rhyngwladol yn ychwanegu at gyfoeth ac amrywiaeth y corff o fyfyrwyr a’u bod felly yn derbyn croeso ac yn cael eu gwerthfawrogi. Rhaid cynorthwyo myfyrwyr a staff yng Nghymru i fod yn symudol yn rhyngwladol - drwy adleoli’n ffisegol i wlad arall, neu gynyddu’r cyfranogiad arlein gyda chymheiriaid rhyngwladol.
Adolygiad o AU a Chyllid Myfyrwyr
49. Fe gyhoeddais i ar 18 Tachwedd fy mwriad i ymgymryd ag adolygiad o addysg uwch a chyllid myfyrwyr dan gadeiryddiaeth Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen, yr Athro Syr Ian Diamond. Bydd yr adolygiad yn dechrau yn gynnar yn 2014 a bydd yn adrodd i Lywodraeth nesaf Cymru yn 2016.
50. Mae’r adolygiad hwn yn gyson â chyhoeddiad gwreiddiol Llywodraeth Cymru yn y Senedd ym mis Tachwedd 2010. Esboniwyd yn glir nad ydym ni’n cefnogi ffioedd ar gost lawn neu’n agos at gost lawn, nad ydym ni’n credu y dylid trefnu addysg uwch ar sail y farchnad ac nad yw’n gynaliadwy yn y tymor hir i’r DU fabwysiadu polisi o fod â’r ffioedd dysgu addysg uwch uchaf drwy’r byd y tu allan i’r Unol Daleithiau.
51. Rwyf i am weld system addysg uwch lwyddiannus yng Nghymru gyda chyfundrefn gyllido gadarn a chynaliadwy i’w chefnogi. Rwyf i hefyd am weld system gadarn o gymorth i fyfyrwyr sy’n gysylltiedig ag egwyddorion mynediad a thegwch.
52. O ystyried y cwmpas eang y bydd angen i’r panel ei rychwantu, byddaf yn gwahodd pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i enwebu unigolion i ymuno â’r panel arbenigol i symud yr adolygiad hwn yn ei flaen.
53. Wrth i’r panel gael ei ffurfio, gallaf gadarnhau mai fy mlaenoriaethau ar gyfer yr adolygiad yw:
· ehangu Mynediad - mae angen i ni sicrhau bod ehangu mynediad yn amcan creiddiol i unrhyw system, a’i bod yn flaengar ac yn deg;
· cefnogi anghenion sgiliau i Gymru;
· cryfhau AU rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru;
· cynaladwyedd ariannol tymor hir
Dewis Myfyrwyr
54. Mae’n galonogol gweld cynifer o bobl yn awyddus i fynd ymlaen i addysg uwch. Rwyf i’n credu y dylai addysg uwch fod ar gael i bawb sydd â’r potensial i elwa beth bynnag eu hoed, rhyw, dull a lefel o astudio, gwlad enedigol a chefndir. Dylai prifysgolion yng Nghymru anelu at fod yn ddewis cyntaf o gyrchfan i fyfyrwyr o Gymru, y DU a ledled y byd.
55. I’r perwyl hwn, rydym ni’n credu ein bod ni wedi sefydlu’r drefn cyllido myfyrwyr fwyaf teg a grëwyd gennym erioed yn ein barn ni." Er ein bod yn dal i wynebu amgylchiadau economaidd ac ariannol llym rydym ni’n parhau i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru.
56. Fel enghraifft, roedd myfyrwyr oedd yn dechrau ar eu hastudiaethau ar neu ar ôl 1 Medi 2013 yn gymwys i dderbyn:
· grant cynhaliaeth â phrawf modd na chaiff ei ad-dalu: hyd at £5,161;
· benthyciad cynhaliaeth â phrawf modd: hyd at £4,715
57. Yn ogystal bydd y cymorth canlynol ar gael i bawb beth bynnag yw incwm y cartref:
· Benthyciad ffioedd dysgu ag uchafswm o £3,575
· Grant ffioedd dysgu (na chaiff ei ad-dalu) hyd at £5,425
· Diddymiad rhannol o’r benthyciadau cynhaliaeth hyd at £1,500 pan fydd yn dechrau ad-dalu.
58. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr o Gymru’n parhau’n ddiamwys ac yn fy marn i rydym ni’n darparu’r system fwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr yn y DU.
59. Fodd bynnag, er gwaethaf y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, mae gan y sector ddyletswydd i ymgymryd â gwaith ychwanegol i gynorthwyo myfyrwyr, beth bynnag eu cefndir. Ni allwn wireddu ein huchelgais i sicrhau economi sgiliau uchel yng Nghymru oni bai bod sefydliadau AU yn cydweithio’n ddwys gydag ysgolion a darparwyr addysg bellach i sicrhau bod cyfleoedd dilyniant ar gael i’r holl ddysgwyr. Rwyf i am i’r rheiny sy’n gallu elwa ar gyfleoedd megis datblygu sgiliau uwch neu ddatblygiad proffesiynol parhaus allu gwneud hynny.
60. Mae’n dilyn fod angen i brifysgolion eu hystyried eu hunain yn bartneriaid, nid o fewn y sector AU yn unig, ond hefyd o fewn yr amrywiaeth ehangach o randdeiliaid drwy gefnogi datblygu economaidd a sgiliau.
61. Rwyf i hefyd yn disgwyl i brifysgolion ganolbwyntio ar gyflogadwyedd eu myfyrwyr. Mae llwyddiant economaidd i Gymru’n dibynnu ar weithlu galluog â sgiliau uchel.
62. Mae 91% o raddedigion o gyrsiau gradd gyntaf llawn amser yng Nghymru yn gyflogedig a/neu’n astudio o fewn chwe mis i adael addysg uwch - felly rydym ni’n gwneud rhywbeth yn iawn. Ond nid yw hynny’n golygu na ellir gwneud rhagor i wella cyfleoedd cyflogaeth i fyfyrwyr eraill, yn enwedig y rhai sy’n dewis astudio rhan amser. Rhaid i sefydliadau AU gynnig cyfleoedd ystyrlon i fyfyrwyr ymwneud â phrofiad gwaith. Rwyf i hefyd yn disgwyl iddynt barhau i weithio gyda chyflogwyr i ganfod proffiliau anghenion hyfforddi penodol, gan amlygu er enghraifft yr hyn fydd ei angen a phryd, o ran sgiliau, lefelau a chymwysterau. Mae myfyrwyr yn gynyddol ofalus ynglŷn â pha gyrsiau a pha sefydliadau maen nhw’n eu targedu a rhaid i ni allu dangos cam clir at gyfoethogi gyrfa drwy eu profiad o AU. Mae cyflogadwyedd yn allweddol a bydd hynny’n gynyddol wir.
63. Wrth i brifysgolion elwa ar incwm ychwanegol dros y blynyddoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ei thro yn disgwyl iddynt chwarae rhan lawn drwy gefnogi ein hagenda strategol i Gymru. Bydd gan CCAUC bwerau newydd drwy ddeddfwriaeth y byddwn ni’n ei chyflwyno y flwyddyn nesaf, ond rhaid i brifysgolion chwarae eu rhan a sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perthynas ag ehangu cyfranogiad a blaenoriaethau eraill.
Rhan 2
Incwm Grantiau Ymchwil o Gynghorau Ymchwil y DU (RCUK)
Tabl 15 Incwm grantiau ymchwil 2011-12 £000au
Cyngor Ymchwil |
AHRC |
BBSRC |
ESRC |
EPSRC |
MRC |
NERC |
STFC |
Arall |
Cyfanswm |
SAU Lloegr |
41,393 |
134,816 |
97,686 |
449,353 |
238,281 |
90,136 |
94,812 |
58,219 |
1,204,696 |
SAU Cymru |
2,762 |
9,592 |
7,714 |
15,711 |
5,149 |
5,149 |
2,888 |
785 |
49,750 |
SAU yr Alban |
6,066 |
38,168 |
10,498 |
71,181 |
58,905 |
21,196 |
12,681 |
10,520 |
229,215 |
SAU Gogledd Iwerddon |
661 |
1,262 |
2,185 |
9,913 |
2,153 |
692 |
690 |
5,807 |
23,363 |
Holl SAU y DU |
50,882 |
183,838 |
118,083 |
546,158 |
304,488 |
117,173 |
111,071 |
75,331 |
1,507,024 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
% Lloegr o’r DU |
81.4% |
73.3% |
82.7% |
82.3% |
78.3% |
76.9% |
85.4% |
77.3% |
79.9% |
% Cymru o’r DU |
5.4% |
5.2% |
6.5% |
2.9% |
1.7% |
4.4% |
2.6% |
1.0% |
3.3% |
% yr Alban o’r DU |
11.9% |
20.8% |
8.9% |
13.0% |
19.3% |
18.1% |
11.4% |
14.0% |
15.2% |
% G.I. o’r DU |
1.3% |
0.7% |
1.9% |
1.8% |
0.7% |
0.6% |
0.6% |
7.7% |
1.6% |
Holl SAU y DU |
100.0% |
100.0% |
100.0% |
100.0% |
100.0% |
100.0% |
100.0% |
100.0% |
100.0% |
Ffynhonnell: Cofnodion Ariannol HESA 2011-12. Mae’r golofn ‘Arall’ yn cynnwys cyllid y Gymdeithas Frenhinol, yr Academi Frenhinol a Chymdeithas Frenhinol Caeredin. Nid Cynghorau Ymchwil yw’r rhain ond mae HESA yn eu cynnwys yn y categori at ddibenion casglu data.
1. Mae incwm Cynghorau Ymchwil Cymru wedi bod yn gyson rhwng 3.1% a 3.4%. Edrychodd cyfres o adolygiadau – gan yr Adran Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd, gan is-grŵp o Bwyllgor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu CCAUC, ac yn fwyaf diweddar gan yr Adran Prif Gynghorwyr Gwyddonol – pam nad yw incwm ymchwil AU Cymru’n nes at y targed o 4.5% i’r sector a osodwyd gan strategaeth ‘Ymgeisio yn Uwch’ yn 2002 neu’r 5% yn strategaeth Gwyddoniaeth ar gyfer Cymru (yn seiliedig ar gyfran 4.9% Cymru o boblogaeth y DU). Mae’n ymddangos mai’r prif ffactor yw’r niferoedd isel o academyddion mewn disgyblaethau sy’n ymwneud â’r cynghorau ymchwil sy’n gwario fwyaf, Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a’r Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC).
2. Noder bod prifysgolion Cymru’n perfformio’n gryf o ran grantiau o Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Heblaw am y BBSRC, cyllidebau bach yn unig sydd gan y cyrff hyn. Mae meysydd gwirioneddol gryf a fyddai’n cael eu hariannu gan EPSRC a MRC gan gynnwys peirianneg sifil, seicoleg a niwrowyddoniaeth. Mae’r pedair prifysgol sy’n ymwneud yn bennaf ag ymchwil yng Nghymru - Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor i gyd yn gymharol fach yn nhermau’r DU. Mae’r ymchwil arall sy’n cael ei gwneud yng Nghymru ar raddfa lai.
3. Mae nifer o fentrau ar y gweill i godi cyfran Cymru o gyllid Cynghorau Ymchwil:
· Sêr Cymru – rhaglen i ddenu doniau gwyddonol o safon byd i Gymru;
· Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol – i greu timau ymchwil mwy o faint a mwy cystadleuol;
· Cyd-fuddsoddiadau llai ynghyd â CCAUC a’r prif brifysgolion ymchwil, e.e. i hyrwyddo ymchwil Cymru, i wella hyfforddiant arweinwyr ymchwil a deall perfformiad;
· Mae CCAUC yn canolbwyntio eu cyllid ymchwil (ffrwd Ymchwil o ansawdd da) i roi hwb i ‘ragoriaeth ymchwil gynaliadwy’ a’i hatgyfnerthu.
Incwm Ymchwil Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru 2011-12 – fesul Sefydliad |
Cyfanswm yr Incwm Ymchwil |
Cyllid Ymchwil Rheolaidd
|
Cynghorau Ymchwil |
Cyrff elusennol yn y DU |
Cyrff llywodraeth ganolog y DU |
Diwydiant, masnach a chorfforaethau cyhoeddus y DU |
Ffynonellau’r UE |
Ffynonellau’r tu allan i’r UE |
Ffynonellau eraill |
Prifysgol |
£k |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
Morgannwg |
6,816 |
2,626 |
455 |
207 |
1,609 |
613 |
1,303 |
3 |
0 |
Aberystwyth |
28,365 |
7,779 |
8,987 |
568 |
4,028 |
1,518 |
5,239 |
182 |
64 |
Bangor |
26,395 |
7,645 |
5,286 |
1,203 |
4,513 |
350 |
6,375 |
669 |
354 |
Caerdydd |
130,354 |
42,700 |
26,465 |
18,158 |
25,231 |
4,667 |
8,542 |
4,037 |
554 |
Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant |
907 |
708 |
42 |
1 |
59 |
49 |
0 |
0 |
48 |
Abertawe |
45,704 |
12,573 |
9,506 |
1,642 |
8,189 |
1,498 |
11,241 |
378 |
677 |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd |
3,779 |
1,201 |
29 |
57 |
1,687 |
181 |
616 |
3 |
5 |
Prifysgol Cymru, Casnewydd |
867 |
469 |
222 |
14 |
88 |
0 |
74 |
0 |
0 |
Glyndŵr |
1,785 |
0 |
439 |
28 |
746 |
454 |
109 |
9 |
0 |
Prifysgol Fetropolitan Abertawe |
326 |
148 |
18 |
112 |
48 |
|
0 |
0 |
0 |
CUCC‡ Prifysgol Cymru |
891 |
397 |
354 |
50 |
0 |
61 |
26 |
0 |
3 |
CYFANSYMIAU CYMRU |
246,189 |
76,246 30.97% |
51,803 21.04% |
22,040 8.95% |
46,198 18.77% |
9,391 3.81% |
33,525 13.62% |
5,281 2.15% |
1,705 0.69% |
Tabl 16 Incwm Ymchwil Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru 2011-12 – fesul Sefydliad ‡Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd
Ffynonellau: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch – Adnoddau ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch 2011/12 (pob ffigwr heblaw am gyllid ymchwil rheolaidd) Mae pob ffigur wedi’i dalgrynnu Cylchlythyron Grantiau Rheolaidd HEFCE, CCAU a SFC, 2011/12 (mae arian ymchwil rheolaidd yn cynnwys Ymchwil o Ansawdd Da ac Ymchwil Ôl-raddedig, neu grantiau cyfatebol) |
Tabl 17Incwm Ymchwil Sefydliadau Addysgu Uwch Cymru 2011-12 o’i gymharu â Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chyfansymiau’r DU:
|
Cyfanswm yr Incwm Ymchwil |
Cyllid Ymchwil Rheolaidd
|
Cynghorau Ymchwil |
Cyrff elusennol yn y DU
|
Cyrff llywodraeth ganolog y DU |
Diwydiant, masnach a chorfforaethau cyhoeddus y DU |
Ffynonellau’r UE |
Ffynonellau’r tu allan i’r UE |
Ffynonellau eraill |
|
£k |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
£k % |
CYMRU |
246,189 |
76,246 31% |
51,803 21% |
22,040 9% |
46,198 18.8% |
9,391 3.8% |
33,525 13.6% |
5,281 2.2% |
1,705 0.7% |
Cymru fel canran o’r DU (%) |
3.8 |
4.0 |
3.4 |
2.3 |
5.7 |
3.3 |
5.6 |
1.6 |
3.5 |
LLOEGR |
5,206,219 |
1,558,000 29.9% |
1,204,696 23.1% |
779,666 15% |
636,593 12.2% |
230,147 4.4% |
479,295 9.2% |
285,269 5.5% |
32,553 0.6% |
Lloegr fel canran o’r DU (%) |
80.9 |
80.9 |
79.8 |
83.0 |
79.1 |
80.8 |
79.9 |
88.2 |
66.8% |
YR ALBAN |
851,082 |
241,196 28.3% |
229,215 26.9% |
127,209 15% |
96,429 11.3% |
40,221 4.7% |
74,672 8.8% |
29,310 3.4% |
12,830 1.5% |
Yr Alban fel canran o’r DU (%) |
13.2 |
12.5 |
15.2 |
13.5 |
12.0 |
14.1 |
12.5% |
9.1% |
26.3 |
GOGLEDD IWERDDON |
132,401 |
50,734 38.3% |
23,363 17.7% |
9,902 7.5% |
25,888 19.6% |
4,925 3.7% |
12,237 9.2% |
3,680 2. 8% |
1,672 1.3% |
Gogledd Iwerddon fel canran o’r DU (%) |
2.1 |
2.6 |
1.5 |
1.1 |
3.2 |
1.7 |
2.0 |
1.1 |
3.4 |
CYFANSWM Y DU |
6,435,891 |
1,926,176 30% |
1,509,077 23.5% |
938,817 14.6% |
805,108 12.5% |
284,684 4.4% |
599,729 9.3% |
323,540 5% |
48,760 0.8% |
Ffynonellau: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch – Adnoddau ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch 2011/12 (pob ffigwr heblaw am gyllid ymchwil rheolaidd) Mae pob ffigur wedi’i dalgrynnu Cylchlythyron Grantiau Rheolaidd HEFCE, CCAU a SFC, 2011/12 (mae arian ymchwil rheolaidd yn cynnwys Ymchwil o Ansawdd Da ac Ymchwil Ôl-raddedig, neu grantiau cyfatebol. |
Cyllido Ymchwil gan Lywodraeth Cymru, drwy CCAUC
4. Mae dyraniad Ymchwil o Ansawdd Da CCAUC yn seiliedig ar fformiwla, gan ddefnyddio canlyniadau Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) 2008. Mae Ymchwil o Ansawdd Da yn cael ei dyfarnu fesul Uned Asesu. Mae trothwyon ansawdd a maint sy’n cael eu lluosi wedyn â phwysoli am bynciau penodol ac am ansawdd. Mae’r rhai olaf yn cael eu cymhwyso’n gymesur â’r proffil ansawdd i’r cais ac mae’r canlyniad yn cael ei raddoli i gyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer Ymchwil o Ansawdd Da.
5. Er mwyn ateb cylch gorchwyl Llywodraeth Cymru, sef defnyddio’r cyllid craidd yn fwy strategol, gyda llai o gyllid yn 2011/12, addaswyd y fformiwla Ymchwil o Ansawdd Da o 2011/12 er mwyn canolbwyntio ar ragoriaeth fwy cynaliadwy. Roedd yn hyn canolbwyntio’n benodol ar roi cymorth i’r lefelau uchaf o berfformiad ymchwil, er mwyn cynnal cystadleurwydd Cymru ar flaen y gad. O 2011/12 dim ond y ddwy raddfa uchaf (3* a 4*) a gynhwyswyd, ac addaswyd eu pwysoliad ansawdd.
Tabl 18: Dyraniadau Cyllid Ymchwil Cyffredinol CCAUC 2012/13
|
||
|
Blwyddyn Academaidd |
|
Ymchwil |
2011/12 |
2012/13 |
Ymchwil o Ansawdd Da (QR) |
71,077,344 |
71,077,344 |
Ymchwil Ôl-raddedig (PGR) |
5,170,336 |
5,170,336 |
Mentrau Ymchwil |
352,123 |
185,867 |
Cyfanswm |
76,599,803 |
76,433,547 |
Tabl 19: Dyraniadau Ymchwil o Ansawdd Da 2013/14 |
|
Sefydliad |
Dyraniad £ |
Prifysgol Morgannwg |
2,379,9890 |
Prifysgol Aberystwyth |
7,264,466 |
Prifysgol Bangor |
6,927,940 |
Prifysgol Caerdydd |
40,208,429 |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
795,305 |
Prifysgol Abertawe |
11,530,052 |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd |
1,123,735 |
Prifysgol Cymru, Casnewydd |
449,227 |
Prifysgol Glyndŵr |
0 |
Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
398,211 |
Cyfanswm (1) |
71,077,344 |
1. Efallai na fydd y cyfansymiau’n adio oherwydd talgrynnu
Tabl 20: Dyraniadau hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig 2013/14
|
|
Sefydliad |
Dyraniad £ |
Prifysgol Morgannwg* |
201,717 |
Prifysgol Aberystwyth |
378,082 |
Prifysgol Bangor |
639,926 |
Prifysgol Caerdydd |
2,806,953 |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
31,229 |
Prifysgol Abertawe |
977,422 |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd |
123,39 |
Prifysgol Cymru, Casnewydd* |
15,587 |
Prifysgol Glyndŵr |
0 |
Cyfanswm |
5,170,336 |
(1) Efallai na fydd y cyfansymiau’n adio’n union oherwydd talgrynnu. * bellach yn rhan o Brifysgol De Cymru
Tabl 21: Cynghorau Ymchwil (CY) y DU: Arian i SAU
Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys ysgoloriaethau ymchwil; grantiau cymrodoriaethau a gwariant cyfalaf yn ogystal â chyllid grantiau ymchwil. Gall Cynghorau Ymchwil drin y cyllid yn wahanol gan wneud i’r ffigurau fod yn gymhleth gyda 18 cafeat yn manylu ar y gwahaniaethau hyn. |
6. Er bod prifysgolion Cymru wedi denu llai o arian y Cynghorau Ymchwil yn 2012-13, mae’r prifysgolion yn dal i ddod â 30% yn fwy o arian y Cynghorau Ymchwil i Gymru na saith mlynedd yn ôl, yn seiliedig ar y ffigurau hyn.
7. Fel y nodwyd uchod, mae ein hystod o bynciau’n golygu bod y dyfarniadau ymchwil yn fwy tebygol o fod mewn meysydd sy’n cael eu cwmpasu gan Gynghorau Ymchwil sy’n rhoi llai o gyllid nag y mae EPSRC a MRC yn ei wneud yn eu meysydd.
8. Rydym o hyd wedi ymrwymo i sicrhau ymchwil ragorol gynaliadwy ym maes addysg uwch. Rhaid iddi allu cael ei chymharu’n rhyngwladol. Mae Llywodraeth Cymru’n dal i weithredu agenda Gwyddoniaeth ar gyfer Cymru, gan gynnwys rhaglen Sêr Cymru, mae’n bwriadu cynyddu mynediad y sector AU i gyllid y Cynghorau Ymchwil a ffynonellau allanol eraill. Rydym hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod gan Gymru gryfderau ym maes ymchwil yn y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, sy’n effeithio ar ddiwylliant, y gymdeithas a’r economi. Mae angen cynnal y rhain.
9. Mae llwyddiannau diweddar o ran denu incwm Cynghorau Ymchwil yng Nghymru’n cynnwys: Partneriaeth Hyfforddi newydd i Fyfyrwyr Doethuriaeth gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i gonsortiwm sy’n cynnwys dwy brifysgol yng Nghymru; a dyfarniad o £8 miliwn o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i sefydlu Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol.
Y Bwrdd Strategaeth Technoleg
10. Mae Llywodraeth Cymru’n annog SAU i gael gafael ar gyllid arall gan gynnwys grantiau’r Bwrdd Strategaeth Technoleg (TSB). Fel arfer mentrau ar y cyd â phartneriaid Busnes yw’r rhain. Mae’r prifysgolion yn derbyn tua 30% o gyllid cyffredinol y TSB. Y partneriaid busnes sy’n arwain. Yn ystod y flwyddyn gyfredol 2013 mae Cymru wedi ennill ymrwymiadau gwerth £12,563,971 gan y TSB sy’n cwmpasu 82 prosiect (6% o gyfanswm y DU, sy’n uwch na’n cyfran o boblogaeth y DU)
Tabl 22: Cyllid cymharol y Bwrdd Strategaeth Technoleg (TSB) |
||||
Ymrwymiadau’r TSB 2013 |
£ |
Nifer |
% |
% |
Gogledd Iwerddon |
4,473,989 |
38 |
2% |
3% |
Yr Alban |
26,101,883 |
158 |
13% |
12% |
Cymru |
12,563,971 |
82 |
6% |
6% |
Lloegr |
151,468,273 |
1083 |
78% |
80% |
|
194,608,116 |
1361 |
|
|
Huw Lewis AC
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
[1] Mae Gweinidogion Cymru wedi llunio rheoliadau dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 sy’n egluro gofynion mynediad teg, sef: Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011 (SI 2011/884) (W.128) a Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011(SI 2011/658) (W. 96).